Gofynnwn ichi ddefnyddio’r templed hwn i ddrafftio’ch ymatebion i’w cyflwyno drwy’r ffurflen ymgynghori ar-lein.

Tystiolaeth gan: Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Y Pwyllgor Cyllid | Finance Committee 

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26| Welsh Government Draft Budget 2025-26

Nid oes yn rhaid ichi ateb pob cwestiwn, dim ond y rhai yr hoffech fynegi barn arnynt neu rannu gwybodaeth yn eu cylch.

1. Beth, yn eich barn chi, fu effaith Cyllideb 2024-25 Llywodraeth Cymru?

Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1 (byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Y llynedd, gwelsom gyllideb Llywodraeth Cymru yn ymbellhau o wariant ataliol ac yn mynd yn groes i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Cafodd y sector gwirfoddol ei fwrw’n galed ar draws nifer o feysydd gwaith allweddol, a thanseiliwyd mudiadau a oedd yn ceisio trechu rhai o heriau mwyaf Cymru. Cyflwynodd gyllideb y llynedd gyfeiriad teithio brawychus lle roedd disgwyl i’r sector gwirfoddol ddarparu a chynnal gwasanaethau rheng flaen heb gael eu cynnwys mewn penderfyniadau neu heb ddigon o adnoddau i weithredu.

Serch y dystiolaeth gref o blaid cyllido amlflwyddyn a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru, prin iawn yw’r grantiau amlflwyddyn i’r sector o hyd. Nid yw mudiadau sy’n cyflawni amrywiaeth o gontractau a adnewyddir bob blwyddyn yn barod felly i ymateb i siociau economaidd sydyn. Gwnaeth y toriadau cydamserol mewn gwariant ataliol ar draws lliaws o bortffolios adael llawer o fudiadau mewn sefyllfa ariannol fregus iawn.

Er y gellir lleihau gwasanaethau, er anfantais i’r cymunedau y maen nhw’n eu cynorthwyo, mae costau gorbenion uwch yn llawer anoddach eu datrys yn yr amgylchedd ariannol hwn. Mae’r ansicrwydd hwn, ynghyd ag effaith chwyddiant, yn rhoi pwysau sylweddol ar weithlu’r sector ac mae staff yn gadael am swyddi mwy diogel â chyflogau mwy cystadleuol. Mae mudiadau yn wynebu heriau mawr o ran ymarferoldeb ac mae hyn yn peryglu eu holl weithgareddau.

Ers mis Ionawr, mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru wedi treulio 21, 628 awr yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol. Yr amser a dreulir ar bob achos ar gyfartaledd yw 56 o funudau, sy’n gynnydd o 16% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2023, ac yn gynnydd o 33% o’i gymharu â 2022. Mae’r cynnydd hwn yn dangos cymhlethdod y materion y mae mudiadau yn eu hwynebu.

Ni ddylai’r diffyg ystyriaeth i’r sector gwirfoddol, fel y gwelwyd yng nghyllideb y llynedd, gael ei ailadrodd. Mae’n rhaid i bortffolios pob gweinidog gyllidebu ar gyfer cyllido’r sector a rhoi cyflogau cyfartal i’n staff sy’n cyflawni contractau cyhoeddus.

2. Pa mor barod yn ariannol yw’ch sefydliad ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, sut y bydd chwyddiant yn effeithio ar eich gallu i gyflwni amcanion sydd wedi’u cynllunio, a pha mor gadarn yw’ch gallu i gynllunio ar gyfer blynyddoedd i ddod?

Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 2 (Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

 

3. Pa gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i’r afael â’r canlynol:

§    helpu aelwydydd i ymdopi â chwyddiant a thrafferthion costau byw;

§    mynd i’r afael ag anghenion pobl sy’n byw mewn cymunedau trefol, ôl-ddiwydiannol a gwledig, gan gynnwys adeiladu tai fforddiadwy a chefnogi economïau o fewn y cymunedau hynny?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

 

4. A yw polisîau cymorth busnes Llywodraeth Cymru wedi bod yn effeithiol, o ystyried y rhagolygon economaidd ar gyfer 2025-26?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

 

5. A yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu economi wyrddach yn eglur ac yn ddigon uchelgeisiol? Ydych chi'n credu bod digon o fuddsoddiad yn cael ei dargedu at fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd a natur? A oes unrhyw fylchau sgiliau posibl y mae angen mynd i'r afael â nhw i gyflawni'r cynlluniau hyn?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Rydym yn croesawu’r ffaith mai un o flaenoriaethau’r Prif Weinidog ar gyfer y llywodraeth yw mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Mae’r sector gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig mewn arafu’r newid yn yr hinsawdd drwy ymhél â chymunedau wrth ddatblygu datrysiadau arloesol ar gyfer adfer byd natur a chefnogi ymdrechion i bontio i arferion economi werdd.

Mae wedi bod yn braf gweld buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn nifer o’n ffrydiau gwaith amgylcheddol, fel ein gwaith drwy’r Partneriaethau Natur Lleol, sy’n cynnwys Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a’r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol, Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a Gwasanaeth Natur Cenedlaethol Cymru. Er bod y buddsoddiad yn y mwyafrif o’r prosiectau hyn wedi bod yn barhaus, mewn egwyddor, drwy ailymgeisio am gyllid, nid yw’r un ohonynt wedi’u cyllido yn yr hirdymor. Mae gorfod datblygu amcanion ar sail prosiectau â chylch oes byr yn cyfyngu ar allu rhanddeiliaid i fod yn uchelgeisiol, cadw talent, cynnal momentwm ac i roi strategaethau gwirioneddol hirdymor ar waith.

Mae ffrwd waith Gwasanaeth Natur Cenedlaethol Cymru yn enghraifft wych – derbyniwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru ar y dechrau i ddatblygu strategaeth, ond bu’n rhaid aros am y cyllid ar gyfer ei gweithredu. Yn ogystal â hyn, serch cyflwyno cynllun gweithredu tair blynedd, dim ond cyllid ar gyfer blwyddyn gyntaf y gweithrediad a gafodd y bartneriaeth a oedd yn gweithio ar y Gwasanaeth newydd, a daeth y cyllid hwn o sefydliad elusennol yn hytrach na bod yn fuddsoddiad gan y llywodraeth.

Bydd adeiladu economi werdd yn cymryd amser a bydd angen lefel uchel o ymglymiad ac ymrwymiad gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol. Rydym eisiau gweld uchelgeisiau Llywodraeth Cymru yn cael eu troi’n gyllid hirdymor i alluogi ein sector i chwarae rôl lawn yn nhaith Cymru at gynaliadwyedd amgylcheddol.

Eleni, gwnaethom groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyllido’r swydd dair blynedd, Rheolwr Datblygu Cronfa MARINE Cymru. Dyluniwyd y rôl hon i ddenu cyllid gan ddatblygwyr yn y sector preifat i’w fuddsoddi mewn rhaglenni sy’n cefnogi ecosystemau morol ac arfordirol ledled Cymru. Credwn fod hyn yn enghraifft dda o weithio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector gwirfoddol i ehangu’r gronfa o adnoddau y gallwn ei defnyddio er mwyn cyflawni’r un amcanion amgylcheddol.

 

6. A yw Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r mecanweithiau ariannol sydd ar gael iddi o ran benthyca a threthiant yn effeithiol?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Hoffem weld mwy o dryloywder mewn sut y caiff trethi Cymru eu gwario.

7. Hoffai'r Pwyllgor ganolbwyntio ar nifer o feysydd penodol eraill wrth graffu ar y Gyllideb. A oes gennych unrhyw sylwadau penodol o ran y meysydd a nodir isod?

A oes digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â chostau byw cynyddol a chefnogi'r bobl hynny sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Yn ôl Cipolwg diweddaraf Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig), mae 44% o bobl yng Nghymru wedi adrodd bod pwysau ariannol wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl. Mae 29% yn dweud ei fod wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol. Nid yw caledi ariannol wedi’i ddosbarthu’n gyfartal ar draws grwpiau gwahanol chwaith. Mae pobl anabl â chyflwr sy’n cyfyngu ar eu gallu i wneud pethau 70% yn fwy tebygol o gael anhawster fforddio pethau hanfodol na phobl heb gyflwr iechyd. Yn y cyfamser, nododd The Trussell Trust (Saesneg yn unig) fod y nifer uchaf erioed o barseli bwyd wedi’u dosbarthu yng Nghymru yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24. Mae pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yn ei chael hi’n anodd ymdopi ac mae’r sector gwirfoddol yn chwarae rôl allweddol yn y cymorth a roddir iddynt. O ganlyniad i gyllideb y flwyddyn ddiwethaf, gwelodd mudiadau gwirfoddol yn y meysydd anabledd, tai ac iechyd meddwl, ymhlith llawer o rai eraill, doriadau i’w cyllid. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau ataliol a chymorth yn cael eu cyllido’n ddigonol i gynorthwyo pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol a’r rheini sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

 

Sut y gallai'r gyllideb fynd i'r afael ymhellach ag anghydraddoldeb rhywedd mewn meysydd fel gofal iechyd, sgiliau a chyflogaeth?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Mae mudiadau gwirfoddol fel Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o nodi meysydd i’w gwella, arfogi menywod gyda’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i eirioli dros eu hunain, gyrru newid positif a dwyn penderfynwyr i gyfrif. Dangosa dyfyniad o adroddiad diweddar gan Age Cymru sut mae mudiadau cydraddoldeb menywod yn mynd ati’n nodweddiadol i wella canlyniadau gofal iechyd i fenywod:

‘Ar ôl i mi gael fy rhyddhau o’r ysbyty yn ddiweddar, doedd gen i ddim cymorth gofal cymdeithasol er fy mod wedi cael fy rhyddhau gyda phecyn gofal. Ar ôl cwyn gan Women Connect First (Saesneg yn unig), dechreuodd gofalwyr ymweld â mi ond dydyn nhw ddim yn dod ar amser, ac mae’n rhaid i mi barhau i gwyno. Ni chwblhawyd unrhyw therapi ac asesiad galwedigaethol brys a bu’n rhaid i mi gael cymorth gan Women Connect First.’

Mae caead Chwarae Teg wedi lleihau gallu ein cenedl i weithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau, yn enwedig o ran sgiliau a chyflogaeth. Er i fudiadau eraill i fenywod ymgymryd â rhywfaint o’r gwaith roedd Chwarae Teg yn arfer ei wneud, ni chawsant unrhyw gyllid cysylltiedig ar gyfer y gwaith hwn. O ganlyniad, mae’r cynnydd mewn ffrydiau gwaith pwysig eraill wedi arafu i ymestyn y capasiti. Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cydraddoldeb rhywedd yn gyffredinol wedi lleihau’n aruthrol ers i’r elusen gau. Mae’n rhaid i fudiadau cydraddoldeb rhywedd gael eu cyllido’n ddigonol i helpu i yrru newid positif ar draws pob sector.

 

A gaiff dull gweithredu Llywodraeth Cymru, o ran gwariant ataliol, ei gynrychioli o ran dyrannu adnoddau (Gwariant ataliol = gwariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau a lliniaru'r galw am wasanaethau yn y dyfodol, drwy ymyrryd yn gynnar).

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Gwelsom newid cyfeiriad syfrdannol i ffwrdd o wariant ataliol yn yr adnoddau a gafodd eu dyrannu’r flwyddyn ddiwethaf; arweiniodd hyn at lai o gyllid cyhoeddus i’r sector gwirfoddol, wrth i’r galw am ein gwasanaethau atal a chymorth gynyddu.

Yn fwy brawychus fyth, pan mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio ymrwymo cyllid ataliol i’r sector gwirfoddol, yn ymarferol, nid yw hyn bob amser wedi’i raeadru i fudiadau gwirfoddol. Yn unol â Chanllawiau'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, disgwylir i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol fuddsoddi o leiaf 20% o’i ddyraniad o’r RIF i ddarparu drwy fudiadau yn y sector gwerth cymdeithasol a’u cynnwys wrth gynllunio a dylunio’r modelau gofal. Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi rhoi hyn ar waith yn amrywio ac yn anghyson. Rydym yn poeni nad yw’r sector gwirfoddol yn cael ei gynnwys yn gyffredinol mewn sgyrsiau cynnar a pharhaus ynghylch dyraniad adnoddau. Yn hytrach na dim ond neilltuo 20% o’u dyraniad ar gyfer y sector gwirfoddol, dylid defnyddio asesiadau o anghenion y boblogaeth i lywio penderfyniadau am ddyrannu adnoddau rhwng y maes iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol a’r sector gwirfoddol. Ond hyd yn oed gyda’r model cyfredol, rydym yn poeni’n enbyd am adroddiadau rydym yn eu derbyn nad yw’r disgwyliad lleiaf yn cael ei fodloni mewn rhai rhanbarthau, gyda’r dyraniadau i’r sector gwirfoddol mor isel ag 8% o’r gyllideb RIF gyffredinol.

Sut y dylai Llywodraeth Cymru egluro ei phenderfyniadau ariannu, gan gynnwys sut mae ei gwariant yn cyfrannu at fynd i’r afael â materion polisi?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Un o’r pethau rydym wedi bod yn gofyn amdano gan Lywodraeth Cymru ers tro byd yw ei bod yn cyhoeddi ymatebion yr ysgrifenyddion cabinet unigol, gan amlygu’r goblygiadau ar gyfer eu portffolios ar yr un dyddiad a’r gyllideb ddrafft. Ar hyn o bryd, mae’r ymatebion hyn yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau ar ôl cyhoeddi’r gyllideb ddrafft; mae hyn yn cyfyngu ar allu rhanddeiliaid i graffu ar y gyllideb am ei fod yn anodd deall beth fydd y goblygiadau cyn i ni weld sut mae pob ysgrifennydd cabinet yn bwriadu gwario o fewn ei bortffolio. Gan ystyried bod Datganiad yr Hydref gan Lywodraeth y DU wedi’i gyhoeddi dair wythnos yn gynharach na'r blynyddoedd cynt, eleni, rydym yn disgwyl i ymatebion yr ysgrifenyddion cabinet gael eu cyhoeddi’n amserol, gan ddangos yn glir y meini prawf a’r blaenoriaethau y tu ôl i’r penderfyniadau cyllidebol o fewn eu portffolios.

Sut y gellir gwella’r ddogfennaeth a ddarperir ochr yn ochr â’i Chyllideb Ddrafft gan Lywodraeth Cymru?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Dylai tablau’r Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (BEL) ddefnyddio iaith ac arddull cyson o un flwyddyn i’r llall i ganiatáu i’r llinellau yn y gyllideb gael eu holrhain yn haws y tu allan i’r Llywodraeth. Mae’r anghysondebau yn y ffordd y caiff yr wybodaeth ei chyflwyno yn ei gwneud hi’n anodd i fudiadau arbenigol, heb sôn am grwpiau gwirfoddol llai neu aelodau o’r cyhoedd, ddehongli’r data, felly mae’n cyfyngu ar ein gallu i graffu arnynt.

Rydym yn croesawu’r gwelliannau i fformat a chyflwyniad y ddogfen ar dystiolaeth ysgrifenedig Gweinidogion i bwyllgorau craffu’r Senedd ar y dyraniadau o fewn pob Prif Grŵp Gwariant y llynedd. Dylai Llywodraeth Cymru barhau i fireinio’r ddogfen, sy’n parhau i fod yn hir iawn gydag oddeutu 400 o dudalennau a chyda diffyg cysondeb ar draws y Prif Grwpiau Gwariant, yn enwedig pan ddaw hi i gysylltu ag Asesiadau Effaith Integredig. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd anelu at ryddhau’r ddogfen mor agos â phosibl at ddiwrnod cyhoeddi’r gyllideb.

 

Sut y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu ei hadnoddau i ymdrin â rhestrau aros y GIG ar gyfer triniaethau GIG sydd wedi'u cynllunio ac nad ydynt yn rhai brys. A ydych chi'n credu bod gan Lywodraeth Cymru gynllun cadarn i fynd i'r afael â'r mater hwn?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

 

A yw Llywodraeth Cymru’n darparu cefnogaeth ddigonol i'r sector cyhoeddus i'w alluogi i fod yn arloesol ac yn flaengar trwy bethau fel cynllunio'r gweithlu?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

 

A fu digon o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn seilwaith sylfaenol y sector cyhoeddus?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Mae’r galw fyth gynyddol am wasanaethau’r sector gwirfoddol a chwmpas ei waith yn adlewyrchu erydiad y buddsoddiad yn seilwaith y sector cyhoeddus.  Mae mudiadau gwirfoddol yn darparu mwy a mwy o wasanaethau a arferai gael eu darparu gan y sector cyhoeddus neu’n lansio gwasanaethau mewn ymateb i angen a grëwyd gan restrau aros hir a diffygion eraill yn narpariaeth y sector cyhoeddus. Mewn rhai achosion, mae’r sector gwirfoddol yn cael ei dalu i ddarparu gwasanaethau statudol, ond yn aml, nid yw’r contractau neu’r grantiau yn ddigon i dalu gwir gost y ddarpariaeth a rhaid i’n sector ni fynd i’n coffrau ein hunain i sybsideiddio’r gwasanaethau hyn. Mae’r newid cyfeiriad i ffwrdd o wariant ataliol yng nghyllideb y llynedd yn arbennig o bryderus i’n sector, ac rydym wedi gweld effaith hyn yn y cynnydd mewn galw ac yn anghenion cymorth cymhleth y cymunedau rydym yn eu cefnogi. Mae tangyllido seilwaith y sector cyhoeddus hefyd yn cyfyngu ar allu cyrff cyhoeddus i gydweithio a chynnal partneriaethau hirhoedl â’r sector gwirfoddol. Bu’r cydweithrediad agos rhwng y sector gwirfoddol a chyrff cyhoeddus yn allweddol yn ymateb Cymru i bandemig Covid-19, ond rydym yn teimlo bod y toriadau dilynol i’r cyllid wedi ei gwneud hi’n anodd i’r ddau sector barhau i gydweithio a chael cymaint â phosibl o werth o’r buddsoddiad presennol.

 

Sut y dylai'r Gyllideb gefnogi pobl ifanc?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

 

Sut y mae tystiolaeth a data yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru o ran pennu blaenoriaethau a dyrannu’r gyllideb, ac a yw’r dull hwn yn glir?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Mae’r dystiolaeth gyd-destunol a ddarparwyd drwy ddogfennau ategol y gyllideb ddrafft, gan gynnwys y grynodeb ar Asesiadau Effaith Integredig Strategol ac adroddiad y Prif Economegydd, yn rhoi trosolwg da o’r ystyriaethau ar lefel strategol (y dyraniad i’r Prif Grwpiau Gwariant). Nid yw’r data a’r dystiolaeth a ddefnyddir i hysbysu’r penderfyniadau ar lefel portffolios (y dyraniad o fewn y Prif Grwpiau Gwariant) mor hawdd i gael gafael arno ac mae swm yr wybodaeth yn amrywio ar draws y Prif Grwpiau Gwariant. Gellir gwneud y dull dyrannu o fewn y Prif Grwpiau Gwariant yn fwy eglur drwy gynnwys mwy o ddata a thystiolaeth yn adroddiadau’r ysgrifenyddion cabinet unigol a gosod templed â gofyniad safonol lleiaf ar gyfer y data a ddarperir. 

 

A yw'r gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau'r trydydd sector, sy'n wynebu galw cynyddol am wasanaethau o ganlyniad i'r argyfwng costau byw a'r pandemig, yn ddigonol?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn ymdrin â mwy o alw nag erioed am wasanaethau, mae heriau sylweddol o ran recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr, mae’r cyllid o bob ffynhonnell yn gostwng ac mae chwyddiant yn gwasgu’r cyllidebau sydd eisoes yn bodoli.

Yn ôl canlyniadau rhagarweiniol ein harolwg ar gyflwr presennol y sector, mae gan 48% o fudiadau lai o wirfoddolwyr nag oedd ganddynt flwyddyn yn ôl ac mae gan 32% lai o aelodau staff amser llawn. Yn y cyfamser, mae 73% wedi adrodd bod mwy o alw am wasanaethau ac nid yw 53% yn gallu llwyr ateb y galw presennol am eu gwasanaethau os o gwbl.

Dywedodd 40% o fudiadau wrthym eu bod wedi derbyn llai o gyllid cyhoeddus y flwyddyn hon. Dywedodd 50% wrthym nad yw’r un o’r contractau cyhoeddus y maen nhw’n eu cyflawni yn ddigon i dalu gwir gost y ddarpariaeth. Dywedodd 40% nad oedd yr un o’u contractau cyhoeddus wedi’u cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r holl ffactorau hyn wedi arwain elusennau i ddibynnu fwyfwy ar arian wrth gefn - gwnaeth 70% o’r mudiadau y gwnaethom ofyn iddynt ddweud eu bod wedi gorfod defnyddio eu harian wrth gefn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Daeth cyllideb 2025-26 Llywodraeth y DU â mwy o newyddion drwg gyda’r cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, gan adael 65% o’r mudiadau y gwnaethom gynnal yr arolwg arnynt yn bryderus neu’n bryderus tu hwnt ynghylch eu gallu i fforddio’r cynnydd. Dywedodd 21% wrthym eu bod yn ystyried lleihau’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt a dywedodd 14% eu bod yn ystyried cau’r gwasanaeth o ganlyniad i’r cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr a’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried amgylchiadau mudiadau gwirfoddol o ddifrif, ynghyd â’r effaith y byddai lleihau neu gau gwasanaethau yn ei chael ar y galw am wasanaethau cyhoeddus, ac ar gyflwr ein hamgylchedd naturiol. Bydd yr effaith hon yn cael ergyd anghymesur ar y cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf ledled Cymru. Gall Llywodraeth Cymru helpu i atal hyn drwy ddyrannu symiau digonol o gyllid i’r sector gwirfoddol yn eu cyllideb ar gyfer 2025-26.

Gofynnwyd cwestiwn penagored i ymatebwyr ein harolwg ynghylch eu blaenoriaethau  ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru. Daeth dwy thema gref i’r amlwg:

cyllid craidd amlflwyddyn i’r sector gwirfoddol;

cynnydd ariannol mewn contractau a grantiau cyhoeddus a fydd yn ystyried y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr a’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd;

Gwnaeth ymatebion eraill a dderbyniwyd ddangos y sefyllfa wirioneddol ddybryd y mae mudiadau gwirfoddol ynddi:

[Llywodraeth Cymru] i sicrhau y gall defnyddwyr gwasanaethau fforddio byw os bydd yn rhaid i ni gau’

 

Beth yw'r cyfleoedd allweddol i Lywodraeth Cymru fuddsoddi i gefnogi economi a gwasanaethau cyhoeddus sy’n cyflawni’n well yn erbyn y nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).

Mae gweithio mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol, gan gynnwys drwy fuddsoddiad wedi’i dargedu, yn gyfle allweddol i gyflawni’n well yn erbyn y nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Credwn y gall y sectorau cyhoeddus a phreifat ddysgu o’r dull a yrrir gan werth y mae mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yn ei weithredu yn eu cynlluniau strategol a’u gweithrediad bob dydd. Waeth a yw’n ymwneud â mabwysiadu fframwaith sylfaen driphlyg neu arferion cyd-gynhyrchu, mae’r glasbrintiau ar gyfer sut i yrru newid positif eisoes yn bodoli. Bydd partneriaethau agosach â’r sector gwirfoddol yn hwyluso’r gwaith o drosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd yn y maes hwn.

Byddai llwyr ymwreiddio’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector mewn prosesau penderfynu ar bob lefel yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i roi’r Pum Ffordd o Weithio ar waith a chyflawni’n well yn erbyn y nodau llesiant.